Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 22 Mai 2017
Amser: 13.15 -
16.06
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4097
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Huw Irranca-Davies AC (Cadeirydd) Dafydd Elis-Thomas AC Nathan Gill AC Dai Lloyd AC David Melding AC |
Tystion: |
Dr Paul Cairney, Uwch-ddarlithydd mewn gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol, Prifysgol Stirling Yr Athro Thomas Glyn Watkin Rhodri Williams, Ofcom David Hughes, Bargyfeithiwr |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Tanwen Summers (Ail Glerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Alys Thomas (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 445KB) Gweld fel HTML
Gwnaeth y Cadeirydd ddatganiad agoriadol yn talu teyrnged i'r diweddar Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, a fu farw yr wythnos diwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Busnes ac Ysgrifenyddion y Cabinet perthnasol yn ymwneud â'r geiriau 'dylai' a 'rhaid' yn y Cod ac yn y Canllawiau Statudol – Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru.
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Trafododd y Pwyllgor ymateb y Llywodraeth i SL(5)090 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017, a oedd ar gael ar ôl cyhoeddi papurau'r cyfarfod. Nododd y Pwyllgor yr ymateb ac roedd yn fodlon â'r sylwadau yn ymwneud â materion hawliau dynol o ran y terfyn oed. Fodd bynnag, nid oedd y Pwyllgor yn teimlo bod yr ymateb yn mynd i'r afael yn llawn â phryderon y Pwyllgor ynghylch carcharorion cymwys.
Cytunodd y Pwyllgor i osod adroddiad atodol gerbron y Cynulliad ac i ysgrifennu at y Llywodraeth ynghylch carcharorion cymwys.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â Phapur Gwyn Llywodraeth y DU ar Fil y Diddymu Mawr.